logoFooter.png

Cwynion

Mae Ysgol Deganwy wedi ymrwymo i fynd i’r afael â chwynion yn effeithlon. Rydym wedi sefydlu trefn gwyno sy’n adlewyrchu ein hymroddiad i sicrhau bod unrhyw un sy’n gysylltiedig â’r ysgol yn gallu lleisio pryder, yn hyderus y caiff ei ystyried a’i ddatrys yn brydlon ac yn briodol. Manylir ar y drefn hon ym Mholisi Cwyno Ysgol Deganwy, sydd ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg yn yr ysgol. Os bydd angen, mae’r Awdurdod yn barod i ddarparu’r polisi mewn ieithoedd heblaw’r Gymraeg a’r Saesneg.

Mae’n bwysig nodi, fodd bynnag, y gellir datrys llawer o faterion yn gyflym ac effeithiol trwy drafodaethau anffurfiol gyda’r Pennaeth. Argymhellir y dull hwn fel y cam cychwynnol, gyda’r Corff Llywodraethol yn disgwyl y byddai cam o’r fath wedi’i gymryd cyn uwchgyfeirio’r gŵyn yn ffurfiol, ac eithrio mewn achosion eithriadol.

I drafod unrhyw gwynion gyda’r Pennaeth, trefnwch apwyntiad drwy gysylltu â’r ysgol .