Mae cynghorau ysgol yn chwarae rhan bwysig yn Ysgol Deganwy ac yn cynnig profiad da o hyfforddiant dinasyddiaeth i’r plant a chyfle i gael llais yn y penderfyniadau sy’n effeithio arnynt yn eu bywyd ysgol dyddiol. Mae gennym ddau brif gyngor yn Ysgol Deganwy:
Y Cyngor Ysgol
Y Cyngor Eco
Mae gennym hefyd ddau o blant wedi eu penodi fel
Swyddogion Diogelwch
Mae pob dosbarth yn ethol dau aelod i’w cynrychioli ar bob un o’r cynghorau. Bydd cynrychiolwyr y cyngor yn mynd â syniadau ac awgrymiadau gan eu cyd-ddisgyblion i gyfarfodydd y cyngor ac yn adrodd yn ôl ar unrhyw benderfyniadau ac argymhellion gan y cyngor.
Bydd gan bob cyngor aelod o staff penodedig yn bresennol mewn cyfarfodydd i gynnig cyngor ac arweiniad.